This week in the S4C serials.
Sara goes a step too far when she kisses Jason. There’s a frosty atmosphere in Maes y Deri when Kath questions Brynmor about the price of her engagement ring. As Rhys gets drunk in the Deri, it’s obvious that his behaviour is going from bad to worse. Izzy tries to build bridges with Gaynor.
Brynmor has a lot of grovelling to do but will Kath forgive him for lying to her? Kelly and Sara come face to face following the attack and Sara has an ultimatum. Dylan comes to apologise to Dani for disappointing her but discovers that Garry saved the day. When Gaynor and Hywel return to catastrophe in Llwyncelyn, it’s time to face facts regarding Rhys’s situation.
Mae Sara yn mynd cam rhy bell wrth iddi gusanu Jason. Dydy pethau ddim yn dda rhwng Kath a Brynmor wrth i Kath ei gwestiynu am bris y fodrwy ddyweddio. Wrth i Rhys feddwi yn y Deri, daw’n amlwg bod ei ymddygiad yn mynd o ddrwg i waeth. Ceisia Izzy gymodi gyda Gaynor.
Mae gan Brynmor waith seboni i wneud ond a fydd Kath yn maddau iddo am y twyll? Daw Kelly a Sara wyneb yn wyneb yn dilyn yr ymosodiad ac mae gan Sara ofynion mawr. Daw Dylan i ymddiheuro wrth Dani am ei siomi ond darganfydda fod Garry wedi achub y dydd. Wrth i Gaynor a Hywel ddychwelyd i lanast yn Llwyncelyn mae’n bryd wynebu difrifoldeb sefyllfa Rhys.
Pobol y Cwm, S4C, Monday, Tuesday, Wednesday & Thursday 8 pm
English and Welsh subtitles
Omnibus on Sunday with on-screen English subtitles
Things are still frosty between Carwyn and Iestyn and are about to go from bad to worse as Carwyn decides to confront Barry about his doubts. Before the end of day, Barry gives Iestyn a piece of his mind and in his temper, Iestyn storms to the Iard to take his anger out on his father.
John is in a romantic mood and begins arrangements for a few nights away, but Caitlin’s unexpected appearance takes all of Sian’s attention. Sophie and Dylan’s barbecue arrangement do not work out very well either as Llew makes his feelings towards his dad’s prospective girlfriend quite clear.
Caitlin, once again, faces an uncertain future, and Sian decides to act on her behalf in the hope that things will soon change, but it doesn’t look too hopeful. Mathew receives some unexpected news that forces him to take a giant leap towards a normal life once again, but is he ready to return to school… and will he be able to keep his secret?
Mae’r rhyfel oer yn parhau rhwng Carwyn a Iestyn ac aiff pethau o ddrwg i waeth wrth i Carwyn holi Barry ynglŷn â’i amheuon. Cyn diwedd y dydd mae Iestyn yn cael pryd o dafod gan Barry, ac yn ei dymer mae’n mynd yn syth i’r Iard i fwrw ei gynddaredd ar ei dad.
Mae John mewn hwyliau ystyrlon a rhamantus ac yn ysgogi trefniadau ar gyfer trip i Ben Llŷn ond yn anffodus mae ymddangosiad annisgwyl Caitlin yn dwyn sylw Sian yn llwyr. Tydi trefniadau barbaciw Sophie a Dylan ddim yn esgor ar ryw lawer o hwyl chwaith wrth i Llew fynegi ei deimladau tuag at darpar gariad ei dad yn gwbl ddi flewyn ar dafod.
Nid yw byd Caitlin yn fêl i gyd chwaith wrth iddi wynebu dyfodol ansicr unwaith eto, a Sian yn gweithredu ar ei rhan y gobaith yw y daw goleuni ym mhen draw’r twnel, ond does dim sicrwydd o hynny. Caiff Mathew newyddion annisgwyl sy’n ei orfodi i gymryd cam anferthol yn ôl at normalrwydd, ond ydi o’n barod i ddychwelyd i’r ysgol ac â fydd hi’n bosib iddo gadw ei gyfrinach?
Rownd a Rownd, S4C, Tuesday and Thursday 8.25 pm
English and Welsh subtitles
Omnibus on Sunday, with on-screen English subtitles